Jocelyn Davies AM
 Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid
 Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

28 Ionawr 2016

Annwyl Jocelyn,

Cyllideb Ddrafft 2016-17

 

Sylwadau cyffredinol

Yn 2015-16, gostyngodd Terfyn Gwariant Adrannol (DEL) yr Adran Cyfoeth Naturiol 7.5% mewn termau arian parod - y gostyngiad mwyaf a wynebwyd gan unrhyw adran o Lywodraeth Cymru. Mae’r Adran yn osgoi’r sefyllfa hon yn 2016-17, ac eto mae’n wynebu toriad mwy nag a wnaeth yn 2015-16, sef 9.3% mewn termau arian parod o’i gymharu â Chyllideb Atodol 2015-16.

Amlinellodd y Gweinidog y warchodaeth a roddir i gyllidebau iechyd ac addysg ac mai canlyniadau hyn oedd toriadau mwy i gyllidebau adrannol eraill. Canlyniad penderfyniadau polisi Llywodraeth y DU yw ffynhonnell y gostyngiadau yn y gyllideb, yn y pen draw.

Rydym o’r farn, yn y blynyddoedd nesaf, fod angen darparu rhagor o fanylion am yr effaith ar ganlyniadau, o ran lleihau eu cwmpas a / neu eu gohirio, yn sgîl gostyngiadau yn y gyllideb.

 

 

Proses y gyllideb

Derbyniwn nad y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a wnaeth y penderfyniad i gyflwyno’r gyllideb ddrafft mewn ffordd wahanol eleni, a bod y newid wedi cael ei egluro yn ei bapur ar ein cyfer. Fodd bynnag, golygodd y newid cyflwyniad hwn ei bod yn fwy anodd gwneud cymariaethau a’u bod yn llai clir. Byddai wedi bod yn well gennym pe bai’r cyflwyniad yn gyson â blynyddoedd blaenorol. Y llynedd, roeddem yn canmol y Llywodraeth am y gwelliannau i eglurder ei chyflwyniad, ac mae’n drueni bod rhywfaint o atchweliad yn hyn o beth eleni. Yn y dyfodol, byddem yn gobeithio y byddai ymgynghori â’r Pwyllgor Cyllid ynghylch newidiadau cyflwyniadol o’r fath. Gan nodi’r uchod, rydym yn ddiolchgar i’r Gweinidog am fod yn agored i glywed ein barn ar yr agwedd hon ar y broses a’i awydd datganedig i wneud y broses mor dryloyw ag sy’n bosibl.

Cyfoeth Naturiol Cymru

Rydym yn gwerthfawrogi gonestrwydd y Gweinidog wrth amlinellu’r heriau ariannol a wynebir gan Gyfoeth Naturiol Cymru, sy’n wynebu gostyngiad o 10.1% mewn termau arian parod yn y gyllideb ar gyfer 2016-17.

Wrth gydnabod y pwysau sydd ar Gyfoeth Naturiol Cymru, ailddatganodd y Gweinidog hefyd ei gred y gall CNC barhau i gyflawni ei holl swyddogaethau craidd. Fodd bynnag, cydnabu’r Gweinidog hefyd y daw amser pan na fydd CNC yn gallu cyflawni’r holl ddyletswyddau y mae’n eu cyflawni ar hyn o bryd, ac y bydd gallu gweithredol yr Adran mewn mwy o berygl.

Rydym yn derbyn sicrwydd y Gweinidog bod CNC yn cael digon o adnoddau i gyflawni ei swyddogaethau craidd yn ystod y cyfnod a gwmpesir gan y gyllideb ddrafft hon. Fodd bynnag, rydym yn pryderu am lefel gynyddol o risg sy’n deillio i wasanaethau sydd eisoes o dan bwysau sylweddol. Os bydd CNC yn gorfod rhoi’r gorau i gyflawni swyddogaethau y gellid eu hystyried yn ‘ddi-graidd’, yna mae’n bwysig bod dealltwriaeth ynghylch goblygiadau hyn.

Mae’n fwriad gennym i archwilio goblygiadau gostyngiadau cyllideb CNC yn fanylach drwy ohebu â Phrif Weithredwr y corff.

Soniodd y Gweinidog hefyd am gamau y gellid eu cymryd i wneud gwell defnydd o’r ystâd gyhoeddus. Byddwn yn gofyn i’r Gweinidog am ragor o wybodaeth yn hyn o beth.

Goblygiadau y Deyrnas Unedig yn peidio â bod yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd

Mae amrywiaeth sylweddol o feysydd polisi o fewn ein cylch gwaith craffu sy’n dibynnu ar gymorth ariannol gan yr Undeb Ewropeaidd (a chyfraith Ewrop). Os bydd y Deyrnas Unedig yn penderfynu peidio â bod yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd, byddai angen trawsnewid rhaglenni mawr yn gyflawn a ffrydiau ariannu newydd sylweddol. Yn benodol, byddai’r effaith ar amaethyddiaeth a chymunedau gwledig yn arwyddocaol oherwydd lefel y gefnogaeth ariannol a ddarperir drwy’r Polisi Amaethyddol Cyffredin.

Rydym o’r farn fod angen dyrannu adnoddau ar gyfer cynllunio wrth gefn, yn enwedig mewn meysydd sy’n gwbl ddibynnol ar gyllid Ewropeaidd ar hyn o bryd. Rydym yn bwriadu gofyn i’r Gweinidog ddarparu rhagor o fanylion am sut y bydd y gyllideb ddrafft yn cefnogi’r angen am y gwaith cynllunio hwn.

Banc Buddsoddi Ewrop

Yn ystod ein sesiwn dystiolaeth, cyfeiriodd y Gweinidog at £350 miliwn o gyllid a oedd wedi’i sicrhau gan Fanc Buddsoddi Ewrop ar gyfer cynllun grant-benthyca. Rydym yn bwriadu gofyn am ragor o wybodaeth am sut y bydd cynllun o’r fath yn gweithio, a’r amcanion y mae’r Gweinidog yn disgwyl eu gweld yn cael eu cyflawni gyda’r arian ychwanegol hwn.

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig y DU - DEFRA

Mae effaith bosibl y toriadau i gyllideb DEFRA ar wasanaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhannu ar hyn o bryd yn destun pryder i ni, er ein bod yn nodi barn y Prif Swyddog Milfeddygol y bydd y toriadau hyn yn fwy yng ngwasanaethau canolog DEFRA ac y bydd llai o effaith ar yr asiantaethau (sydd yn fwy perthnasol o ran gwasanaethau a rennir).

Rydym yn croesawu’r camau y mae’r Dirprwy Weinidog a’i swyddogion wedi’u cymryd i sicrhau bod rhagor o gynrychiolaeth o Gymru yn yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ac yn dilyn hynny, rhagor o sylw ganddi.

Rheoli perygl llifogydd

Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Gweinidog, a’r Prif Weinidog becyn ariannu gwerth £3.3 miliwn ar gyfer gwaith atgyweirio ar unwaith a chynlluniau cynnal a chadw afonydd a draenio ac i gynorthwyo cymunedau sy’n goresgyn effeithiau llifogydd.

Mae’r Prif Weinidog wedi cadarnhau bod £2.3 miliwn wedi cael ei ddarparu o ganlyniad i gynnydd yn y cyllid gan Lywodraeth y DU ar gyfer rheoli perygl llifogydd yn Lloegr.

Ni allai’r Gweinidog gadarnhau’r ffynhonnell o £1 miliwn o gyllid ychwanegol, a ph’un a fyddai’n dod o’r gyllideb gyfredol (2015-16) neu’r gyllideb yn y dyfodol (2016-17). Rydym yn bwriadu gofyn am ragor o wybodaeth gan y Gweinidog am ffynhonnell y cyllid hwn.

Yn gywir

 

Description: P:\OPO\Committees\Committees (2011-2016)\Env & Sustainability\Correspondence\Chair's correspondence\Alun Ffred Jones sig.jpg

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.

We welcome correspondence in Welsh or English.